Ystafelloedd i’r Teulu
Yng Ngwesty’r Traethau ar Arfordir Gogledd Cymru
Ein gwesty 4 seren ger Traeth Barkby yw’r lle perffaith i fwynhau antur glan-môr gyda’ch teulu yng Ngogledd Cymru. Paciwch y bwced a’r rhaw – mae croeso cynnes yn aros amdanoch chi a’ch plant.
Archebu Ystafell i’r Teulu
Mae ein Hystafelloedd i’r Teulu yng Ngwesty’r Traethau yn addas ar gyfer pump o bobl sydd naill ai’n cysgu mewn un ystafell neu ystafelloedd cysylltiedig. Mae’r holl ystafelloedd yn dawel ac yn eang ac yn addas i deuluoedd.
Smart TV
Complimentary Wi-Fi
Tea & Coffee Making Facilities
Rydym yn falch iawn o ddarparu gwelyau arbennig (travel cots) i fabanod os oes angen. Gadewch i ni wybod faint fydd eu hangen arnoch pan fyddwch yn archebu. Nid ydym yn darparu dillad gwely ar gyfer gwelyau babanod felly cofiwch ddod â hoff flanced a gobennydd eich plentyn gyda chi.
Dewis eich Ystafell i’r Teulu
Yng Ngwesty’r Traethau
Ystafell i’r Teulu – 4 o bobl
Ystafelloedd gyda golygfa o’r bryniau a digon o le i bedwar.
Archebwch nawrYstafell i Bedwar
Ystafelloedd cysylltiedig gyda 2 ystafell ymolchi: 1 gwely dwbl maint brenin | 2 wely sengl.
DARLLEN MWYYstafell i Dri + Golygfa o’r Môr
1 gwely dwbl maint brenin ac 1 gwely sengl. Ystafell fawr i’r teulu gyda golygfa wych o’r môr.
DARLLEN MWYYstafell Foethus i Dri
1 gwely dwbl maint brenhines ac 1 gwely sengl. Ymlaciwch gyda’ch plentyn mewn steil.
DARLLEN MWYDiddanu’r Plant
Gyda Thraeth Barkby ar garreg y drws, gallwch gael hwyl ar y traeth, adeiladu cestyll tywod, neu fynd am dro i fwynhau hufen iâ. Mae maes chwarae gwych bum munud i ffwrdd o Westy’r Traethau. Mae ein gwesty hefyd yn agos iawn at nifer o atyniadau a gweithgareddau poblogaidd i’r teulu, o barciau thema a swau i ardaloedd o harddwch naturiol.
**Hawlfraint y Goron. Mae’r delweddau ar drwydded gan https://assets.wales.com/**