Ystafelloedd Sengl
Yng Ngwesty’r Traethau ar arfordir Gogledd Cymru
Ymlaciwch ym moethusrwydd ein Hystafelloedd Sengl eang, sy’n cynnwys gwely braf maint tri-chwarter. Mae ein Hystafelloedd Sengl yn boblogaidd gyda theithwyr busnes ac yn ddelfrydol ar ôl treulio diwrnod hir ar y ffordd neu mewn cyfarfodydd. Mae ein gwasanaeth Wi-Fi am ddim hefyd yn golygu y gallwch weithio yn eich ystafell os ydych yn dymuno.
Gwesty’r Traethau yw’r lleoliad perffaith ar gyfer Cynadleddau a Chyfarfodydd ym Mhrestatyn, mae gennym ystafell gynadledda fawr sydd hefyd yn ddelfrydol ar gyfer cyfarfodydd llai, mwy anffurfiol.
Yn ystod eich arhosiad, gallwch fwynhau pob math o ddewisiadau bwyd yng Ngwesty’r Traethau lle rydym yn cynnig dewis eang o fwyd a diodydd blasus. Pan fyddwch yn archebu’n uniongyrchol gyda ni, mae brecwast poeth blasus wedi’i gynnwys yn y pris – y dechrau perffaith i’r diwrnod. Neu os ydych ar frys yn y bore, gallwch ddewis ein brecwast tecawê.
Archebwch yn uniongyrchol ar ein gwefan i gael y cyfraddau gorau!
Mae dyluniad a maint pob ystafell yn wahanol, mae’r lluniau yn enghreifftiol yn unig
Mathau Eraill o Ystafelloedd
Yng Ngwesty’r Traethau

Ystafelloedd Dau Wely
Mae ein hystafelloedd dau wely moethus yn cynnwys dau wely sengl braf gyda golygfeydd rhannol o’r môr.
DARLLEN MWY
Ystafelloedd Dwbl Bach
Mae ein hystafelloedd dwbl bach yn ddewis delfrydol os ydych am gadw costau i lawr.
DARLLEN MWY
Ystafelloedd Dwbl
Mae ein hystafelloedd dwbl yn berffaith i gyplau sy’n dymuno ymlacio a mwynhau gwyliau byr.
DARLLEN MWY
Ystafelloedd Dwbl gyda Golygfa o’r Môr
Mae ein hystafelloedd dwbl gyda golygfa o’r môr yn olau ac yn eang, ac yn edrych allan dros y twyni tywod gan gynnig golygfeydd rhannol o’r môr.
DARLLEN MWYPam Aros Gyda Ni
Yng Ngwesty’r Traethau, Prestatyn


Arhosiad Corfforaethol
Gallwn gynnig noson dda o gwsg a brecwast gwych yn ystod eich arhosiad corfforaethol.
DARLLEN MWY
Mynediad uniongyrchol i’r traeth
Gallwch gerdded allan o’r drws i fwynhau golygfeydd gwych o’r môr a mynediad uniongyrchol i’r traeth.
DARLLEN MWY