Ystafelloedd Moethus i Dri
Yng Ngwesty’r Traethau ar Arfordir Gogledd Cymru
Mae ein Hystafelloedd Moethus i Dri yng Ngwesty’r Traethau yn cynnwys gwely maint brenhines a gwely sengl, neu gallwch ofyn i ni drefnu’r ystafell ar gyfer tri gwely sengl os ydych yn dymuno. Ymlaciwch gan wybod y bydd popeth yn ei le ar gyfer eich arhosiad. Ein hystafelloedd i dri yw’r dewis perffaith os ydych yn chwilio am wyliau byr gyda’ch ffrindiau, yn aros gyda’ch cydweithwyr neu’n mwynhau gwyliau golff gyda’ch cyd-chwaraewyr.
Archebwch ein Hystafelloedd Moethus i Dri
Mae pob un o’n Hystafelloedd Moethus i Dri yn cyfuno steil a chysur felly gallwch ymlacio’n llwyr yn ystod eich arhosiad ger y môr. Mae nifer o’n hystafelloedd i dri yn cynnig golygfeydd da o fryniau Clwyd. Mae digon o le yn ein hystafelloedd i dri ar gyfer 3 oedolyn; maent wedi’u haddurno’n chwaethus ac yn cynnwys teledu clyfar a Wi-Fi cyflym am ddim felly gallwch gadw mewn cysylltiad â phawb a ffrydio’r ffilmiau diweddaraf neu wylio eich hoff gyfresi – hynny yw, os na fyddwch allan yn mwynhau ar ein teras braf neu ar Draeth Barkby ar garreg ein drws.
Byddwch yn siŵr o gael noson dda o gwsg diolch i’r matresi moethus a dwfes meddal, yn ein gwesty arbennig ger y môr.
Archebwch un o’n hystafelloedd i dri heddiw i fanteisio ar un o’n cynigion gwych yma yng Ngwesty’r Traethau yn nhref Prestatyn.
Gall ystafelloedd amrywio o ran dyluniad ac arddull, mae’r lluniau yn enghreifftiol yn unig
Ystafelloedd eraill
Yng Ngwesty’r Traethau
Ystafelloedd i Ddau
Mae ein hystafelloedd moethus i ddau yn ddelfrydol i fwynhau gwyliau byr gyda’ch ffrindiau.
DARLLEN MWYYstafell i Dri + Golygfa o’r Môr
Mae ein Hystafell i Dri gyda Golygfa o’r Môr yn cynnwys holl gyfleusterau ein Hystafell Foethus i Dri ynghyd â golygfa wych o’r môr.
DARLLEN MWYPam Aros Gyda Ni
Yng Ngwesty’r Traethau
Mynediad Uniongyrchol i’r Traeth
Dewch i aros gyda ni i fwynhau mynediad uniongyrchol i Draeth Barkby.
DARLLEN MWY