Ystafell i Bedwar
Yng Ngwesty’r Traethau ar Arfordir Gogledd Cymru
Mae ein Hystafelloedd i Bedwar yng Ngwesty’r Traethau yn cynnwys un gwely dwbl maint brenin a dau wely sengl mewn dwy ystafell ar wahân sydd wedi’u cysylltu â drws. Mae gan y ddwy ystafell eu hystafelloedd ymolchi eu hunain, felly cewch lonydd gan y plant i ymlacio yn y bath! Gallwn ddarparu ar gyfer teuluoedd mawr neu grwpiau o bob maint. Ni waeth a ydych chi’n trefnu aduniad teuluol, wedi dod i chwarae golff gyda’ch ffrindiau neu’n mwynhau penwythnos gyda’r genod, ein gwesty cyfleus yn nhref Prestatyn yw’r dewis perffaith.
Archebwch ein Hystafelloedd i Bedwar ym Mhrestatyn
Mae digon o le yn ein hystafelloedd i bedwar ar gyfer hyd at 4 oedolyn, ac mae pob ystafell yn gyfforddus ac yn chwaethus. Rydych yn siŵr o gael noson dda o gwsg yn ein gwelyau cyfforddus, gyda’u dillad gwely glân, clustogau cyfforddus, a dwfes meddal. Yn ogystal â hyn mae pob ystafell yn cynnwys nwyddau ymolchi am ddim, teledu clyfar, Wi-Fi am ddim, poteli dŵr, bisgedi a chyfarpar gwneud te/coffi.
Mae lleoliad delfrydol ein gwesty yn golygu y gall ein gwesteion hefyd fwynhau Traeth Barkby sydd ar garreg y drws. Prestatyn yw’r lle perffaith i fwynhau gwyliau braf a chofiadwy yng Ngogledd Cymru, ac mae digonedd o atyniadau a gweithgareddau gwych gerllaw.
Archebwch un o’n hystafelloedd i bedwar heddiw i fanteisio ar un o’n cynigion gwych yma yng Ngwesty’r Traethau, Prestatyn.
Ystafelloedd Eraill
Yng Ngwesty’r Traethau

Ystafelloedd i Bump
Mae ein hystafelloedd moethus i bump yn ddelfrydol ar gyfer gwyliau byr gyda’ch ffrindiau.
DARLLEN MWYPam Aros Gyda Ni
Yng Ngwesty’r Traethau

Mynediad Uniongyrchol i’r Traeth
Dewch i aros yn ein gwesty moethus lle gallwch fwynhau mynediad uniongyrchol i Draeth Barkby.
DARLLEN MWY
Golff
Os ydych yn hoffi chwarae golff, Prestatyn yw un o’r cyrchfannau gorau yng Ngogledd Cymru.
DARLLEN MWY
Bar a Bistro’r Promenâd
Dewch i fwynhau golygfeydd gwych ar hyd arfordir Gogledd Cymru o’n Bar a Bistro.
DARLLEN MWY