Ystafell Foethus i Dri + Golygfa o’r Môr
Yng Ngwesty’r Traethau ar Arfordir Gogledd Cymru
Mae ein Hystafell Foethus i Dri gyda Golygfa o’r Môr yng Ngwesty’r Traethau yn cynnwys holl gyfleusterau ein Hystafelloedd Moethus i Dri ynghyd â golygfa wych o’r môr.
Ystafell Foethus i Dri + Golygfa o’r Môr yng Ngogledd Cymru
Mae ein Hystafell i Dri gyda Golygfa o’r Môr yn dawel ac yn eang, ac wedi’i haddurno mewn lliwiau a defnyddiau cynnes, croesawgar – y lle perffaith i orffwys ar ôl diwrnod prysur ar Draeth Barkby. Mae ein Hystafell i Dri gyda Golygfa o’r Môr yn addas i deulu o dri, ac mae’n cynnwys gwely maint brenin ac un gwely sengl. Mae pob un o’n hystafelloedd yn cynnwys ystafell ymolchi ensuite ynghyd â nwyddau ymolchi am ddim, teledu clyfar, Wi-Fi am ddim, a chyfarpar gwneud te/coffi.
Ar ôl diwrnod prysur yn mwynhau fel teulu yng Ngogledd Cymru, mae’n siŵr y bydd awydd bwyd arnoch. Yma yng Ngwesty’r Traethau, mae gennym ddewisiadau bwyd at ddant pawb, gan gynnwys Bistro a Bar y Promenâd sy’n cynnig bwydlen arbennig i blant. Gallwn addasu ein bwydlen i blant yn ôl eich gofynion deietegol gwahanol, felly rhowch wybod i’n staff profiadol a byddwn yn barod iawn i’ch helpu chi a’ch teulu.
Ystafelloedd Eraill
Yng Ngwesty’r Traethau
Ystafelloedd i Ddau
Mae ein hystafelloedd moethus i ddau yn ddelfrydol i fwynhau gwyliau byr gyda’ch ffrindiau.
DARLLEN MWYYstafelloedd i Bedwar
Dewch i aros yn ein Hystafelloedd i Bedwar sy’n cynnwys gwely maint brenin a dau wely sengl.
DARLLEN MWYPam Aros Gyda Ni
Yng Ngwesty’r Traethau
Mynediad Uniongyrchol i’r Traeth
Dewch i aros gyda ni i fwynhau mynediad uniongyrchol i Draeth Barkby.
DARLLEN MWY