Traeth Talacre
Ger Gwesty’r Traethau
Yn 1861, arferai’r teulu Liddell aros yn rheolaidd mewn tŷ gwyliau o’r enw “Penmorfa” yn ardal Penmorfa neu West Shore, Llandudno. Yn ôl y sôn, roeddent yn ffrindiau agos gyda’r awdur Charles Dogson, neu Lewis Carroll, sy’n fwyaf adnabyddus am greu Anturiaethau Alys yng Ngwlad Hud.
Credir bod y llyfrau enwog wedi cael eu hysbrydoli gan Alice (Liddell) a’i hanturiaethau yn ardal Llandudno. Er nad oes prawf pendant o hyn, dadorchuddiwyd Cerflun y Gwningen Wen yn 1933 gan y cyn-Brif Weinidog David Lloyd-George yn 1933 gan sefydlu’r cysylltiad rhwng tref Llandudno a’r llyfrau am byth.
Gallwch ddilyn cyfres o Lwybrau Tref yn Llandudno, gyda cherfluniau ar hyd y daith, sy’n seiliedig ar Anturiaethau Alys yng Ngwlad Hud.
**Hawlfraint y Goron. Lluniau dan drwydded gan https://assets.wales.com/**