Dewch i ymweld â Phrestatyn
Arhoswch yng Ngwesty’r Traethau
Mae Gwesty’r Traethau ym Mhrestatyn mewn lleoliad cyfleus ar arfordir Gogledd Cymru, gyda golygfeydd o Fôr Iwerddon a bryniau Prestatyn. Yn ystod eich arhosiad gyda ni, gallwch ymlacio a chreu atgofion drwy fynd am dro bach rhamantus ar hyd y traeth neu fwynhau anturiaethau gyda’r teulu, mae Prestatyn heb os yn lleoliad glan-môr arbennig iawn. Ni waeth a ydych chi’n mwynhau gwyliau gyda’r teulu ym Mhrestatyn, yn teithio ar eich pen eich hun, yn treulio penwythnos rhamantus gyda’ch partner neu wyliau byr gyda ffrindiau, mae cymaint o bethau i bobl o bob oed eu gweld a’u mwynhau ym Mhrestatyn a’r ardaloedd cyfagos.
Pam ymweld â Phrestatyn
Mae Prestatyn yn dref a chymuned glan-môr yn Sir Ddinbych, Cymru. Ar arfordir Môr Iwerddon, i’r dwyrain o’r Rhyl, roedd yn rhan o Sir y Fflint yn hanesyddol. Y traethau a’r theatrau yw rhai o uchafbwyntiau Prestatyn ynghyd â’r cyfoeth o atyniadau a gweithgareddau gerllaw’r gwesty ac ardaloedd cyfagos Gogledd Cymru. Mae’r dewisiadau yn ddiddiwedd ac mae rhywbeth yma at ddant pawb.
Atyniadau a Gweithgareddau Lleol yn ardal Prestatyn
Mae llawer o atyniadau a gweithgareddau i bawb eu mwynhau yn ysod eich arhosiad yng Ngwesty’r Traethau. O barciau thema a swau i ardaloedd o harddwch naturiol, bydd digonedd o ddewis o bethau i’w gweld a’u gwneud ym Mhrestatyn a Gogledd Cymru. Mae llawer o’r atyniadau niferus i’w cael ar hyd yr arfordir, ac mae ardal y gorllewin yn gartref i SeaQuarium y Rhyl. Yno gallwch weld y morlod hyfryd, cerdded o dan y tonnau a dod yn agos at siarcod, heb sôn am helpu i fwydo’r cathod môr. Mae llyn pwrpasol Marine Lake yn adnabyddus i bawb ac yno gallwch fwynhau Rheilffordd Fach y Rhyl, chwaraeon dŵr a maes chwarae i blant. Os ydych yn mwynhau crwydro yn yr awyr agored, beth am fynd am dro ar hyd Llwybr Clawdd Offa, llwybr 177 milltir o hyd wedi’i enwi ar ôl Offa, Brenin Mercia yn yr 8fed ganrif. Neu os yw’n well gennych gymryd rhan mewn gweithgareddau diwylliannol, mae Theatr y Pafiliwn yn nhref y Rhyl gerllaw yn werth chweil; beth am alw heibio i weld cerddoriaeth fyw, comedi neu theatr gyfoes, mae’r rhaglen yn cynnig rhywbeth i bawb drwy’r flwyddyn.
Traethau Prestatyn
Mae gan ardal Prestatyn sawl traeth bendigedig o fewn cyrraedd hwylus i’r dref, gan gynnwys y Traeth Canolog a Thraeth Barkby, sydd wedi ennill gwobrau. Mae yma bedair milltir o draethau eang, tywodlyd ar lethr graddol at y môr ac mae’r morgloddiau creigiog yn gartref i gregyn meheryn, crancod ac anemonïau. Does ryfedd bod chwaraeon dŵr mor boblogaidd yma, ac mae hwylfyrddwyr a syrffwyr barcud i’w gweld yn aml yn mwynhau’r tonnau. Mae’r promenâd eang yn rhan o Lwybr Arfordir Gogledd Cymru, ac mae’n mynd drwy drefi’r Rhyl a Llandudno. Mae’r twyni tywod gerllaw wedi’u nodi yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig gan eu bod yn gynefin i lyffantod y twyni, madfallod y tywod a môr-wenoliaid. Mae tref glan-môr Prestatyn wedi bod yn denu ymwelwyr ers blynyddoedd lawer, ac mae pobl yn dal i heidio yma yn eu miloedd bob blwyddyn i fwynhau’r pedair milltir o draethau tywodlyd braf.
Pam aros gyda ni?
Os ydych yn chwilio am wyliau mewn gwesty ym Mhrestatyn, Gwesty’r Traethau yw’r dewis perffaith ar gyfer pobl o bob oedran ac mae’n lle gwych i aros os ydych am ddarganfod trysorau Prestatyn a’r ardaloedd cyfagos. Ar ôl diwrnod allan, gallwch ddychwelyd i fwynhau croeso cynnes, ystafelloedd moethus, cyfleusterau hamdden, bwyd bendigedig a gwasanaeth gwych. Archebwch eich gwyliau ym Mhrestatyn heddiw! Mae antur yn aros amdanoch ar arfordir Gogledd Cymru bob dydd.