Mae dinas hanesyddol a hardd Caer yn atyniad poblogaidd iawn i gyplau a theuluoedd sy’n aros yng Ngwesty’r Traethau. Mae’r ddinas hynafol hon yn wirioneddol hardd ac mae’n gartref i furiau tref mwyaf cyflawn a chwrs rasio ceffylau hynaf y Deyrnas Unedig.
Ymweld â Chaer ger Gwesty’r Traethau
Os ydych yn chwilio am siopau, bwytai, bariau a chaffis, ewch draw i’r ‘rows’ canoloesol, ardal ddifyr tua 700 mlwydd oed. Neu, beth am fynd ar daith ar fws agored i weld pob rhan o’r ddinas drawiadol hon. Yn ardal Parc Grosvenor mae’r theatr awyr agored enwog yn cynnal pob math o berfformiadau drwy gydol y flwyddyn. Mae Sw Caer 10 munud i ffwrdd o ganol y ddinas mewn car. Gallwch gymryd rhan mewn pob math o weithgareddau ar afon Dyfrdwy sy’n llifo drwy’r ddinas, neu os ydych am ymlacio, beth am ymweld â’r bariau niferus ar lan yr afon.
Teithio i Gaer
Mewn car – 47 munud
Ar y trên – 30 munud (Gorsaf Prestatyn i Orsaf Caer). Darllen mwy.
Mae gan ddinas Caer lawer mwy i’w gynnig na hyn. I gael rhagor o wybodaeth, cliciwch YMA.
**Hawlfraint y Goron. Lluniau dan drwydded gan https://assets.wales.com/**