Traeth Barkby
Ger Gwesty’r Traethau
Mae Gwesty’r Traethau mewn lleoliad delfrydol ar draeth Barkby ac mae digonedd o bethau i’w gwneud gerllaw i’ch diddanu yn ystod eich arhosiad yma ym Mhrestatyn.
Hwyl glan-môr ar Draeth Barkby
Os ydych yn chwilio am wyliau hamddenol ger y môr neu weithgareddau mwy anturus, mae’r cyfan i’w cael yma yn ardal Prestatyn yng Ngogledd Cymru. I’r rheini sy’n hoffi treulio amser yn yr awyr agored, mae yma ddigonedd o lwybrau cerdded a beicio i’w darganfod a’u mwynhau gerllaw. Ni fydd ardal Prestatyn yn eich siomi.
Mae digonedd o ddewis i chwaraewyr golff, gyda chyrsiau gwych a safonol iawn o fewn cyrraedd hwylus i Westy’r Traethau.
Os ydych yn mwynhau crwydro o amgylch y siopau, yna rydych chi wedi dod i’r lle iawn. Mae Parc Prestatyn yng nghanol tref Prestatyn, 4 munud i ffwrdd oddi wrthym ac mae Stryd Fawr Fictorianaidd Prestatyn yn llawn siopau unigryw, llawn cymeriad a fydd yn cynnig croeso Cymreig arbennig i chi. Mae tref Llandudno o fewn cyrraedd hefyd, llai na 45 munud i ffwrdd, ac yno gallwch weld holl enwau cyfarwydd y stryd fawr, yn ogystal â siopau llai, unigryw, neu beth am fentro draw i ddinas Caer lle mae gwledd o siopau yn aros amdanoch.
Gydag amrywiaeth eang o weithgareddau ac atyniadau ym Mhrestatyn ac ardal Gogledd Cymru, mae digonedd o bethau i’ch diddanu yn ystod eich arhosiad gyda ni yng Ngwesty’r Traethau.
Pam aros gyda ni ym Mhrestatyn
Does dim prinder gweithgareddau i’w mwynhau yn ystod eich arhosiad gyda ni yng Ngwesty’r Traethau ar Draeth Barkby. Ar ôl diwrnod prysur, cewch ddychwelyd i’r gwesty i fwynhau croeso cynnes, pryd blasus ym Mistro a Bar y Promenâd a noson dda o gwsg yn ein hystafelloedd moethus a chyfforddus. Os oes gennych amser, beth am fanteisio ar ein cyfleusterau hamdden a mwynhau ein pwll nofio dan do.