Ein Swît Mis Mêl
Yng Ngwesty’r Traethau, Prestatyn
Ar ôl holl gyffro ac emosiwn diwrnod eich priodas, mae’n amser i chi ymlacio a mwynhau eich mis mêl yng Ngwesty’r Traethau.
Mae Swît Mis Mêl Gwesty’r Traethau yn cynnig profiad moethus iawn i bawb sy’n dod yma i ddathlu achlysur arbennig. Ni waeth a ydych chi newydd briodi ac yn treulio eich noson gyntaf gyda’ch gilydd, neu rydych chi’n barti priodasol sy’n paratoi ar gyfer y diwrnod mawr, mae gan Swît Mis Mêl Gwesty’r Traethau bopeth ar eich cyfer.
Mae’r Swît Mis Mêl hardd a’i wely pedwar-postyn moethus yn cynnig golygfeydd anhygoel gwych o’r môr, felly gallwch wylio’r dydd yn gwawrio gyda’ch gilydd ar eich bore cyntaf fel pâr priod.
Mae ein holl ystafelloedd yn cynnwys wi-fi am ddim, ffonau, nwyddau ymolchi moethus, cyfleusterau gwneud te a choffi a sychwyr gwallt. Mae gwasanaeth ystafell ar gael hefyd.