Nofio yn y Môr
Yng Ngwesty’r Traethau
Gwesty’r Traethau yw’r lleoliad delfrydol i’r rheini sy’n mwynhau nofio yn y môr. Gyda Thraeth Baner Las Canol Prestatyn ar garreg ein drws, does unman gwell i aros nag ym Mhrestatyn, Gogledd Cymru. Yr ardal rhwng y baneri ar Draeth Canol Prestatyn yw’r lle perffaith i nofio mewn dŵr agored gan fod achubwyr bywyd ar ddyletswydd yno i ofalu amdanoch wrth i chi fwynhau yn y dŵr.
Nofio mewn Dŵr Agored
Mae nofio mewn Dŵr Agored yn addas i bobl o bob oedran a gallu. Gall pawb, o blant ifanc i nofwyr hŷn, gymryd rhan. Mae’n hysbys bod nofio yn yr awyr agored yn rhoi hwb i lefelau dopamin a serotonin ac yn rhyddhau endorffinau sy’n gwneud i ni deimlo’n dda.
Os ydych awydd nofio fel rhan o griw a chreu atgofion gwych, mae’r grŵp nofio Bluetits Chill Swimmers yn fusnes sy’n hyrwyddo cymunedau o nofwyr awyr agored. Mae eu Cymuned Nofio Cymdeithasol / Social Swim Community yn un fyd-eang ac mae’n cynnwys grwpiau o bobl o bob rhyw sy’n mwynhau nofio, mae lle i bawb sydd awydd mynd i nofio yn y môr ym Mhrestatyn. Does dim ffioedd clwb, cofrestru, rheolau, gofynion, na disgwyliadau – dyma grŵp gwych i’r rheini sy’n aros yng Ngwesty’r Traethau.
I weld gwefan The Bluetits Chill Swimmers cliciwch yma.
Pam Aros gyda Ni
Ar ôl diwrnod gwych o nofio mewn dŵr agored, bydd ein gwelyau cyfforddus a’n staff cyfeillgar a chymwynasgar yn falch iawn o’ch croesawu. Rydym yn sicrhau bod ein hystafelloedd yn bodloni anghenion ein gwesteion, mae pob gwely yn cynnwys clustogau cyfforddus mawr, a dillad gwely cotwm braf, felly byddwch yn siŵr o gael noson dda o gwsg. Gallwch fwynhau pryd blasus ym Mar a Bistro’r Promenâd neu Fwyty Swît Bryn lle mae rhywbeth at ddant pawb. A bydd golygfeydd gwych a sŵn y môr yn gefndir i’r cyfan.
**Hawlfraint y Goron. Lluniau dan drwydded gan https://assets.wales.com/**
Mwynhewch Nofio yn y Môr
Yng Ngwesty’r Traethau
Amseroedd Llanw
Cynlluniwch eich diwrnod traeth perffaith a phrofiad nofio môr gyda chymorth siart amseroedd llanw Prestatyn.
darllen mwy