Ein Lleoliad
Gwesty’r Traethau
Mae Gwesty 4 Seren Y Traethau yn nhref hardd Prestatyn, yn edrych ar draws Môr Iwerddon ar Arfordir Gogledd Cymru. Mae lleoliad y Gwesty yn hwylus iawn, dim ond 20 munud o gyffordd 31 oddi ar y B5122, 35 munud o Gonwy, 46 munud o ddinas Caer ac awr o Fanceinion.
Cyfarwyddiadau
20 munud o Gyffordd 31 ar y B5122
- Conwy 22.7 milltir (35 munud)
- Caer 29.9 milltir (46 munud)
- Maes Awyr Lerpwl 51 milltir (1 awr 9 munud)
- Caergybi 58.3 milltir (1 awr 14 munud)
- Maes Awyr Manceinion 59.7 milltir (1 awr 15 munud)
Parco i Geir – AM DDIM i Westeion yn ystod eich arhosiad
Mae ein maes parcio talu ac arddangos yn cael ei fonitro gan gwmni o’r enw Creative Car Park. Ar ôl i chi gyrraedd Gwesty 4 Seren Y Traethau, Prestatyn, ewch i’r Dderbynfa cyn parcio eich car. Ar ôl i chi ddadlwytho eich bagiau, bydd y Derbynnydd yn cofnodi Rhif Cofrestru eich car ac yn rhoi tocyn parcio i chi – rhaid i chi arddangos y tocyn parcio yn ffenestr eich cerbyd bob amser. Bydd y Derbynnydd hefyd yn dweud wrthych pa ran o’r maes parcio y dylech ei defnyddio yn ystod cyfnodau prysur.
Mae gennym sawl man parcio anabl ger y brif fynedfa a’r ardal gollwng o flaen y gwesty. Mae ein prif faes parcio gyferbyn â’r brif fynedfa, felly dilynwch yr arwyddion. Hoffem atgoffa gwesteion nad yw’r gwesty yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am gerbydau a’u cynnwys pan fyddant yn y maes parcio. Os yw’r maes parcio yn llawn, mae sawl maes parcio talu ac arddangos gerllaw Gwesty’r Traethau.
Mae’r maes parcio ar gael i bobl nad ydynt yn aros yn y gwesty
- 1 awr: £2.00
- 2 awr: £3.00
- 4 awr: £4.00
- 8 awr: £6.00
Ar y Trên
Prestatyn yw’r orsaf drenau agosaf, sydd tua 5 munud i ffwrdd mewn car o Westy 4 Seren Y Traethau. Gallwch ddal tacsi y tu allan i’r orsaf ac mae swyddfa dacsis ger yr orsaf i gyfeiriad canol y dref. Gallwch weld y prisiau diweddaraf ac amseroedd trenau i Orsaf Prestatyn ar Trainline drwy glicio YMA. Neu, gallwch ffonio’r Gwesty ymlaen llaw a gall aelod o dîm y dderbynfa archebu ar eich rhan.
Ar y Fferi
Mae’r porthladd fferis agosaf yng Nghaergybi, Ynys Môn, Gogledd Cymru. Mae’r porthladd mewn lleoliad cyfleus ym mhen draw ffordd ddeuol yr A55, sydd 1 awr 15 munud i ffwrdd mewn car o Westy’r Traethau (LL65 1DJ).
Mewn Awyren
Mae Maes Awyr Manceinion tua 1 awr ac 20 munud i ffwrdd. Gallwch ddal trên yn uniongyrchol o’r orsaf yn y maes awyr i Brestatyn (bydd rhaid newid ar rai gwasanaethau trenau). Gallwch archebu tacsi ymlaen llaw, neu gallwch ofyn i aelod o’n tîm yn y Dderbynfa archebu ar eich rhan (pris taith unffordd yw tua £85.00). Gallwch logi car yn y maes awyr hefyd. Mae rhagor o wybodaeth ar gael YMA.
Mae Maes Awyr Lerpwl tua 1 awr a 10 munud i ffwrdd. Does dim gorsaf drenau yn y maes awyr a’r orsaf agosaf yw Liverpool South Parkway. Gallwch archebu tacsi ymlaen llaw, neu gallwch ofyn i aelod o’n tîm yn y Dderbynfa i archebu ar eich rhan. Gallwch logi car yn y maes awyr hefyd. Mae rhagor o wybodaeth ar gael YMA.
Ar Feic
Mae llawer o lwybrau beicio prydferth iawn yng Ngogledd Cymru, ac mae pob un o fewn cyrraedd hwylus iawn i Westy 4 Seren Y Traethau. Gallwn storio nifer cyfyngedig o feiciau. I gael rhagor o wybodaeth, ffoniwch y Gwesty ar 01745 853072 a bydd aelod o Dîm y Dderbynfa yn hapus i roi rhagor o wybodaeth i chi. Dysgwch ragor am Lwybr Beicio Cenedlaethol 5 NCR5.