Helmed Rufeinig
Ger Gwesty’r Traethau
Mae’r cerflun gwych hwn ar ochr y bryn yn dathlu treftadaeth Rufeinig Prestatyn. Dyma ddarn o gelf trawiadol ar ffurf Helmed Rufeinig, sy’n cynnwys lluniau o ddail y dderwen ddi-goes. Myfyrwyr o Ysgol Uwchradd Prestatyn sy’n gyfrifol am greu’r dyluniad trawiadol hwn ar y cyd â chwmni Cod Steak’s Design, ac mae’n cynnwys eu syniadau am yr hyn sy’n bwysig am dref Prestatyn. Mae’r dderwen ddi-goes yn gyffredin yn ardal Prestatyn ac yn symbol o gadernid a chydnerthedd. Cafodd ei adeiladu yn 2009 ac mae’r cerflun yn wobr arbennig am gerdded milltiroedd olaf Llwybr Cerdded Clawdd Offa.
Treftadaeth Rufeinig Prestatyn
Daethpwyd o hyd i dystiolaeth o weddillion Rhufeinig yn dyddio’n ôl 2,000 mlynedd yn 1934 pan aeth archaeolegwyr ati o gloddio safle’r Baddondy Rhufeinig ar Melyd Avenue.
Mae’r llwybr at y cerflun yn serth iawn o gyfeiriad Prestatyn, felly cymerwch ofal wrth gerdded. Gallwch eistedd ar y fainc i gael eich gwynt atoch a mwynhau’r olygfa. Os ydych yn dymuno cerdded yno, ewch i fyny’r stryd fawr ac yna ymlaen ar hyd Fforddlas, heibio’r Cross Foxes, yna yn syth ymlaen at yr Helmed Rufeinig. I’r rheini sy’n teimlo’n ddigon egnïol, gallwch barhau i gerdded heibio’r helmed nes i chi gyrraedd y copa a mwynhau golygfa wych o ben bryn Prestatyn.
2 Mount Ida Rd
Prestatyn
LL19 9EL
Gogledd Cymru | MYNEDIAD AM DDIM
Pam Aros gyda Ni
Ar ôl diwrnod prysur, cewch ddychwelyd i’r gwesty i fwynhau croeso cynnes, pryd blasus ym Mar a Bistro’r Promenâd a noson dda o gwsg yn ein hystafelloedd moethus a chyfforddus. Os oes gennych amser, beth am fanteisio ar ein cyfleusterau hamdden gwych ac ymlacio yn ein pwll nofio dan do.
**Hawlfraint y Goron. Lluniau dan drwydded gan https://assets.wales.com/**