Gwylio’r Tywydd yng Ngogledd Cymru
Arhoswch yng Ngwesty’r Traethau, Prestatyn
Saif Gwesty’r Traethau yn un o’r lleoliadau gorau yng Ngogledd Cymru, ac mae’n lle delfrydol i aros er mwyn gwylio rhyfeddodau byd natur a stormydd arfordirol. Mae gwylio’r tywydd yng Ngwesty’r Traethau, Prestatyn, yn brofiad gwych. Er y byddwch yn ei chanol hi ar draeth Barkby, byddwch yn gynnes braf yn ein gwesty 4-seren, wedi’ch amgylchynu gan gynhesrwydd, cysur a moethusrwydd.
Cadwch yn glyd yn y gwesty a gwylio’r Tywydd Gwyllt
Mae Gwesty’r Traethau ym Mhrestatyn yn cynnig milltiroedd o olygfeydd gwych o arfordir Môr Iwerddon yn ogystal â bryniau Prestatyn. Mae Traeth Barkby ar garreg ein drws felly rydym yn lleoliad perffaith i wylio’r tywydd yn troi’n sydyn, y stormydd yn cyrraedd a’r tonnau gwyllt yn taro, a’r cyfan o ystafelloedd clyd ein gwesty moethus 4-seren.
Beth am archebu tamaid o fwyd neu bryd blasus o’n bwydlen gwasanaeth ystafell ac ymlacio ar ein gwelyau cyfforddus ym moethusrwydd ein hystafelloedd gyda golygfeydd o’r môr tra’n gwylio’r stormydd, y tonnau gwyllt a’r gwyntoedd cryf yn chwythu o Fôr Iwerddon, ychydig droedfeddi i ffwrdd o’ch ffenestr – mae’n dipyn o sioe.
Os yw’r tywydd yn rhy wael i fentro tu allan, beth am ymlacio yn ein pwll nofio modern, dan do, lle mae haul yr hydref/gaeaf yn llifo i mewn trwy’r ffenestri eang, neu beth am roi cynnig ar ein jacuzzi. Gall gwesteion ddefnyddio ein cyfleusterau hamdden am ddim, ac mae’n gyfle perffaith i ymlacio cyn mwynhau pryd blasus neu ddiod ym Mar a Bistro’r Promenâd ar ymyl Traeth Barkby, y lleoliad delfrydol i wylio’r stormydd yn cyrraedd Gogledd Cymru a Môr Iwerddon.
Mentrwch y tu allan i Draeth Barkby
Pan fydd y cymylau’n clirio, beth am wisgo eich dillad awyr agored a mentro allan am dro ar hyd y traeth, gan deimlo’r gwynt ar eich wyneb, anadlu awyr ffres y môr, a theimlo grym byd natur a’r dirwedd anhygoel.
Mwynhewch Wyliau Byr yn yr hydref neu’r gaeaf ym Mhrestatyn
Un o’r pethau gorau am ymweld â Gwesty’r Traethau yn ystod yr hydref neu’r gaeaf yw cael cyfle i ddianc rhag prysurdeb bywyd, arafu ac ymlacio. Gallwch gadw’n glyd ac yn gynnes yn y gwesty, darllen llyfr a mwynhau siocled poeth, gwylio ffilm neu wylio’r tywydd gwyllt y tu allan.
Mae gwyliau byr yn yr hydref neu’r gaeaf yng Ngwesty’r Traethau yn brofiad gwerth chweil, gallwch wylio holl ddrama’r tywydd yn digwydd y tu allan gan gadw’n glyd a chynnes a mwynhau gwasanaeth, llety, cyfleusterau bwyta a hamdden gwych ar yr un pryd.