Gwesty’r Traethau, ger Traeth Barkby, yw’r dewis perffaith ar gyfer gwyliau llawn hwyl i’r teulu ym Mhrestatyn, Gogledd Cymru. Ni waeth a ydych chi’n trefnu penwythnos i ffwrdd gyda’r plant neu’n chwilio am westy sy’n addas i’r teulu ar gyfer gwyliau hirach yn yr haf, mae gennym bopeth ar eich cyfer yma yng Ngwesty’r Traethau.
Gwyliau Llawn Hwyl i’r Teulu ym Mhrestatyn
Mae gennym ddigonedd o bethau at ddant pawb, yn hen ac ifanc, yn ystod eich arhosiad yma yng Ngwesty’r Traethau – mae’r rhestr o atyniadau a’r gweithgareddau i deuluoedd yn nhref Prestatyn ac ardaloedd cyfagos Gogledd Cymru yn ddiddiwedd. Mae Traeth Barkby yn llythrennol ar garreg ein drws, ac mae’n ffefryn mawr gyda theuluoedd. Mae’r traeth wedi ennill gwobr Baner Las sy’n golygu y gall mam a dad ymlacio gan wybod bod y plant yn chwarae ar draeth glân a diogel. Gallwch chi a’r teulu fwynhau pob math o weithgareddau awyr agored, o deithiau cerdded a beicio ar hyd yr arfordir a thu hwnt, i fwynhau natur a bywyd gwyllt ein hardaloedd gwledig neu daith i Sw Caer, sydd lai nag awr i ffwrdd.
Edrychwch ar ein Hystafelloedd Mawr i’r Teulu
Gwesty’r Traethau yw un o’r gwestai gorau a mwyaf poblogaidd ymhlith teuluoedd yn ardal Prestatyn a Gogledd Cymru ac mae’n cynnig dewis o ystafelloedd teulu sy’n addas i deuluoedd o bob maint. Mae pob un o’n hystafelloedd teulu yn eang ac yn braf, ac maent wedi’u cynllunio a’u haddurno gan roi sylw i anghenion teuluoedd. Dewiswch o blith ein hystafelloedd teulu unigryw, sy’n addas ar gyfer teuluoedd o bob maint!
Bwyta gyda’r Teulu
Bydd ein brecwast i’r teulu yn Swît y Twyni yn rhoi’r dechrau gorau i’ch diwrnod. Mae Bar a Bistro’r Promenâd yn gweini bwyd drwy’r dydd felly gallwch archebu bwyd ar amser cyfleus i chi ar ôl diwrnod prysur yn crwydro, neu’n mwynhau gwynt y môr. Gyda’r nos mae Bar a Bistro’r Promenâd yn cynnig dewis o seigiau sy’n addas i bawb, gan gynnwys seigiau pasta a chig, ynghyd â physgod ffres a dewisiadau llysieuol. Mae gennym fwydlen arbennig i blant hefyd i gadw’r rhai lleiaf yn hapus.
Cyfleusterau Hamdden am ddim
Fel ein gwesteion, gallwch chi a’ch teulu ddefnyddio ein cyfleusterau hamdden modern am ddim yma yng Ngwesty’r Traethau yn ystod eich arhosiad. Mae ein pwll nofio dan do yn ddelfrydol ar gyfer y plant. Gall mam a dad fwynhau’r jacuzzi, sawna, ystafell stêm a’r gampfa hefyd.
Mae ein Gwyliau i’r Teulu ym Mhrestatyn yn cynnwys
Mae ein dewis o wyliau i’r teulu yn cynnig gwerth am arian gwych drwy’r flwyddyn, ac maent yn cynnwys ……
Beth am greu atgofion gwych ar eich gwyliau glan-môr gyda’r teulu ym Mhrestatyn, lle mae’r môr, cestyll tywod ac anturiaethau yn aros amdanoch. Rydym yn edrych ymlaen at eich croesawu chi a’ch teulu i Westy’r Traethau.