Gweithgareddau Ac Atyniadau Lleol
Ger Gwesty’r Traethau yng Ngogledd Cymru
Mae Gwesty’r Traethau mewn lleoliad delfrydol ar draeth Barkby, ac mae gwledd o weithgareddau i’w mwynhau yn yr ardal yn ystod eich arhosiad yma ym Mhrestatyn. Os ydych chi’n chwilio am wyliau hamddenol ger y môr neu weithgareddau mwy anturus, mae’r cyfan i’w cael ym Mhrestatyn, Gogledd Cymru.
Gweithgareddau Lleol
I’r rheini sy’n hoffi treulio amser yn yr awyr agored, mae yma ddigonedd o ardaloedd cefn gwlad, llwybrau cerdded a beicio i’w darganfod a’u mwynhau gerllaw. Bydd golffwyr wrth eu bodd gyda’r dewis o gyrsiau golff gwych sydd oll o fewn cyrraedd hwylus i ni yma yng Ngwesty’r Traethau.
Os ydych yn mwynhau crwydro o amgylch y siopau, yna galwch heibio Parc Prestatyn yng nghanol tref Prestatyn, 4 munud i ffwrdd oddi wrthym, ac ewch am dro i lawr Stryd Fawr Fictorianaidd Prestatyn. Mae tref Llandudno ychydig llai na 45 munud i ffwrdd mewn car, ac yno gallwch weld holl enwau cyfarwydd y stryd fawr, yn ogystal â siopau llai, unigryw, neu beth am fentro draw i ddinas Caer lle mae gwledd yn eich aros.
Gydag amrywiaeth eang o weithgareddau ac atyniadau ym Mhrestatyn ac ardal Gogledd Cymru, mae digonedd o bethau i’ch diddanu yn ystod eich arhosiad gyda ni yng Ngwesty’r Traethau.
Atyniadau Lleol
Mae Prestatyn a Gogledd Cymru yn ardal gyfoethog iawn o ran hanes ac mae pob math o atyniadau hardd, trysorau pensaernïol, cestyll hanesyddol, a golygfeydd gwych i’w mwynhau ar hyd Arfordir Gogledd Cymru – a’r cyfan o fewn cyrraedd hwylus i ni yma yng Ngwesty’r Traethau.
Does dim angen mentro’n rhy bell i fwynhau harddwch tref Prestatyn a thraeth gwych Barkby ar garreg ein drws. Mae’r traeth hir euraidd yn cysylltu â Thraeth Canolog Prestatyn, traeth baner las, lle mae’r morgloddiau creigiog a phromenâd eang yn ddefrydol ar gyfer mynd am dro a chael picnic. Mae twyni tywod Gronant yn safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SSSI) ac yn ddynodiad cadwraethol ffurfiol.
Mae dinas Caer lai nag awr i ffwrdd mewn car o Brestatyn ac mae’n daith gwerth chweil. Mae ymweliad â’r ddinas hynafol hon yn brofiad bythgofiadwy ac mae yno ddigonedd o atyniadau i’w gweld a’u mwynhau gan gynnwys Amffitheatr Rufeinig fwyaf Prydain, eglwys gadeiriol sy’n dyddio nôl 1000 o flynyddoedd a lle ceir rhai o’r enghreifftiau gorau o gerfiadau canoloesol yn Ewrop, ynghyd â’r cwrs rasio hynaf a llawer mwy.
Pam Aros Gyda Ni Ym Mhrestatyn
Does dim prinder gweithgareddau i’w mwynhau yn ystod eich arhosiad gyda ni yng Ngwesty’r Traethau ar draeth Barkby a Thraeth Canolog Prestatyn. Ar ôl diwrnod prysur yn crwydro’r ardal, cewch ddychwelyd i’r gwesty i fwynhau croeso cynnes, pryd blasus ym Mar a Bistro’r Promenâd, a noson dda o gwsg yn ein hystafelloedd moethus a chyfforddus.