Golff Gwirion, Y Rhyl
Ger Gwesty’r Traethau
Bydd y cwrs Golff Gwirion hwn sydd 15 munud i ffwrdd mewn car o Westy’r Traethau yn siŵr o blesio plant ac oedolion fel ei gilydd.
Golff Gwirion
Mae prisiau yn dechrau o £3.00 ac mae pecynnau arbennig ar gael, sy’n cynnwys rowndiau o Golff Gwirion, diodydd a hufen iâ! Mae’r Cwrs Golff Gwirion gyferbyn â’r maes chwarae antur felly mae digon o hwyl i’w gael yn yr ardal hon. Heb sôn am y ffaith bod y traeth gerllaw a phob math o arcêds yn llawn gemau ar hyd Promenâd y Rhyl. Mae dewis o gaffis a chabanau gerllaw hefyd os ydych yn chwilio am rywle i brynu bwyd neu diod i’r plant!
Golff Gwirion
Parêd y Gorllewin
Y Rhyl
Sir Ddinbych
LL18 1HH
Llun: Golff Gwiron, Y Rhyl ar Facebook
Pam Aros gyda ni
Does dim prinder o bethau i’w mwynhau yn ystod eich arhosiad gyda ni yma yng Ngwesty’r Traethau. Ar ôl diwrnod prysur, cewch ddychwelyd i’r gwesty i fwynhau croeso cynnes, pryd blasus ym Mar a Bistro’r Promenâd a noson dda o gwsg yn ein hystafelloedd moethus a chyfforddus. Os oes gennych amser, beth am fanteisio ar ein cyfleusterau hamdden gwych a mwynhau ein pwll nofio dan do.
**Hawlfraint y Goron. Lluniau dan drwydded gan https://assets.wales.com/**