Os ydych chi’n chwilio am wyliau yng Ngogledd Cymru sy’n cynnig gwerth gwych am arian, beth am gymryd golwg ar gynigion arbennig Gwesty’r Traethau. Mae cyfle bob amser i ymweld â Gwesty’r Traethau a mwynhau moethusrwydd, gwasanaeth gwych a chroeso cynnes ein tîm.
Yn ogystal â hyn, rydym yn cynnig dewis eang o gynigion a phecynnau arbennig os ydych yn chwilio am wyliau yng Gogledd Cymru sy’n cynnig gwerth am arian. Ni waeth pa ystafell y byddwch yn ei dewis, mae’r traeth eiliadau i ffwrdd yn unig.
Pan fyddwch yn chwilio am ein cynigion arbennig isod, bydd codau cynigion yn cael eu gosod yn awtomatig ar y dyddiadau rydych yn chwilio amdanynt. Os yw eich dyddiadau teithio yn hyblyg, beth am roi galwad i’n tîm archebion? Gall aelod o’r tîm eich helpu i ddod o hyd i’r pecyn sy’n cynnig y gwerth gorau ar gyfer eich arhosiad.
Archebu eich Arhosiad yng Ngwesty’r Traethau
Mae Gwesty’r Traethau yn nhref ddifyr Prestatyn yn lleoliad perffaith i ymlacio a mwynhau. Rydym mewn lleoliad bendigedig ar yr arfordir i fwynhau golygfeydd hyfryd drwy’r haf, ac yn y gaeaf, mae’n lle hudolus i wylio’r stormydd…
Mae cymaint o bethau i’w gwneud yn y dref hyfryd hon, o grwydro llwybrau rhamantaidd i ddarganfod pob math o weithgareddau lleol. P’un a ydych chi’n chwilio am anturiaethau gyda’r teulu neu’n dymuno darganfod ardaloedd o harddwch naturiol a thrysorau cudd, yna mae gan Westy’r Traethau bopeth sydd ei angen arnoch.
Mae 79 ystafell wely foethus yn y gwesty, ynghyd â phwll nofio braf, Bistro a Bar y Promenâd, digon o le parcio am ddim a gwasanaeth WIFI am ddim hefyd. Gyda’r holl gynhwysion ar gyfer gwyliau perffaith, beth am archebu eich arhosiad yng Ngwesty’r Traethau a darganfod y dewis eang o gynigion arbennig sydd ar gael ar hyn o bryd drwy archebu’n uniongyrchol gyda ni.