Clawdd Offa
Ger Gwesty’r Traethau
Prestatyn yw man cychwyn, neu ddiwedd, llwybr Clawdd Offa, llwybr cenedlaethol 177 milltir o hyd (285km) sy’n dilyn y ffin rhwng Cymru a Lloegr yn fras, ac sydd o fewn cyrraedd hwylus i Westy’r Traethau. Gall cerddwyr profiadol ddechrau eu taith 14 diwrnod yn y naill ben neu’r llall, ond mae llawer o bobl yn hoffi dechrau’r daith ‘o’r môr i’r môr’ ger aber afon Hafren yn Sedbury.
Llwybr Clawdd Offa
Mae’r llwybr wedi’i enwi ar ôl y Brenin Offa. Mae’n debyg mai Offa oedd yn gyfrifol am gomisiynu’r Clawdd, sy’n cynnwys ffos ac argloddiau i rannu teyrnas Mersia oddi wrth deyrnasoedd ei elynion, ar diroedd sydd bellach yng Nghymru. Mae’n bosibl bod y Rhufeiniaid wedi ceisio adeiladu clawdd tebyg cyn hynny, ond Offa sy’n cael ei gysylltu â’r clawdd erbyn heddiw. Er bod arwyddbyst ar hyd y daith, rydym yn argymell eich bod yn defnyddio llyfr arwain da. Agorwyd y llwybr yn swyddogol yn 1971 ac mae bellach yn llwybr cerdded poblogaidd iawn, yn enwedig rhwng mis Ebrill a mis Hydref.
I’r cerddwyr llai profiadol sy’n dymuno rhoi cynnig ar ran o’r llwybr yn unig, mae’r darn rhwng Bodfari a Phrestatyn yn fan cychwyn da. Bydd y rhan hon o’r llwybr yn eich arwain drwy gyfres o gamfeydd cerrig i’r gogledd o Marian Cwm sy’n unigryw i’r ardal hon. Ar hyd y daith mae cyfle i fwynhau golygfeydd gwych o Eryri ac arfordir Gogledd Cymru. Rydym bob amser yn argymell eich bod yn dweud wrth rhywun eich bod yn bwriadu mynd i gerdded, hefyd cofiwch fynd â map gyda chi, gwisgwch esgidiau addas ac ewch â dillad glaw gyda chi hefyd.
Pam Aros gyda Ni
Ar ôl diwrnod prysur yn cerdded, cewch ddychwelyd i’r gwesty i fwynhau croeso cynnes, pryd blasus ym Mar a Bistro’r Promenâd a noson dda o gwsg yn ein hystafelloedd moethus a chyfforddus. Os oes gennych amser, beth am fanteisio ar ein cyfleusterau hamdden gwych ac ymlacio yn ein pwll nofio dan do.
**Hawlfraint y Goron. Lluniau dan drwydded gan https://assets.wales.com/**