Cerflun Dechrau a Diwedd
Ger Gwesty’r Traethau
Mae ‘Dechrau a Diwedd’, neu’r ‘Polo Mint’ yn ôl rhai pobl leol, yn gerflun 6 metr o uchder ar Draeth Canolog Prestatyn, nid nepell o Westy’r Traethau.
Cerflun Dechrau a Diwedd
Mae’r cerflun yn nodi diwedd Llwybr Cerdded Cenedlaethol Clawdd Offa ond mae’n bosibl ei fod hefyd yn nodi dechrau’r daith i rai eleni. Cafodd y cerflun siâp obelisg ei osod yn ei le yn 2009, ac mae wedi’i wneud o ddur gwrth-staen â gorffeniad drych a chalchfaen o chwarel leol. Cafodd ei ddylunio gan Craig a Mary Matthews.
Ewch allan o Westy’r Traethau drwy ddrws Bar y Promenâd, trowch i’r chwith, ewch yn eich blaen i lawr y prom nes i chi weld y cerflun o’ch blaen ger Canolfan Nova.
Llun: Dave Jones
Pam aros gyda ni
Ar ôl diwrnod allan, cewch ddychwelyd i’r gwesty i fwynhau croeso cynnes, pryd blasus yn Bistro a Bar y Promenâd a noson dda o gwsg yn ein hystafelloedd moethus a chyfforddus. Os oes gennych amser, beth am fanteisio ar ein cyfleusterau hamdden gwych ac ymlacio yn ein pwll nofio cynnes dan do.
**Hawlfraint y Goron. Lluniau dan drwydded gan https://assets.wales.com/**