Achlysuron Bwyta Preifat
Yng Ngwesty’r Traethau yng Ngogledd Cymru
Gwesty’r Traethau yw’r lleoliad perffaith i gynnal unrhyw achlysur neu ddigwyddiad bwyta preifat yn nhref Prestatyn. Ni waeth a ydych chi’n chwilio am leoliad ar gyfer aduniad neu ddathliad teuluol, neu barti preifat – dyma’r lle i chi.
Achlysuron Bwyta Preifat ym Mhrestatyn
Dewch i Westy’r Traethau ar gyfer eich dathliad neu achlysur arbennig lle rydym yn cynnig gwasanaeth a bwyd o’r safon uchaf, a golygfeydd godidog o’r haul yn machlud dros Fôr Iwerddon – y cyuniad perffaith ar gyfer lleoliad bwyta preifat gwych ym Mhrestatyn.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau am gynnal digwyddiad ar gyfer grŵp, neu archebion, cysylltwch â’n tîm ar +44 1745 853072 neu e-bostiwch info@thebeacheshotel.com. Bydd ein tîm ymroddedig a chyfeillgar wrth law i’ch helpu o’ch galwad cyntaf i sicrhau y bydd eich parti neu achlysur yn un cofiadwy yma yng Ngwesty’r Traethau, Prestatyn.
Gall Gwesty’r Traethau ddarparu ar gyfer pawb. Mae ein Prif Cogydd Gweithredol, Mark yn ymfalchio mewn cynnig bwydlen sy’n newid gyda’r tymhorau ac mae’n defnyddio cynnyrch a chynhwysion lleol. Gall ein tîm digwyddiadau a Mark weithio gyda chi i greu bwydlen arbennig i chi ar gyfer eich diwgyddiad preifat.
Aros dros Nos
Mae ein gwesty ar Arfodir Gogledd Cymru gyda mynediad uniongyrchol i draeth Barkby. Felly beth am wneud y mwyaf o’r cyfle a mynd allan i fwynhau gwynt y môr neu fynd am dro bach ar y traeth. Mae gennym 78 ystafell eang a chyfforddus ar y safle, felly gallwch chi a’ch gwesteion wneud noson ohoni a mwynhau eich hun yn y gwesty am ychydig yn hirach. A does dim yn well na deffro yn y bore i sŵn y môr.