Baddondy Rhufeinig
Ger Gwesty’r Traethau
Yn cuddio rhwng 42 a 42a Melyd Avenue, mewn ardal breswyl o Brestatyn mae gweddillion Baddondy Rhufeinig.
Hanes y Baddondy Rhufeinig
Cafodd gweddillion y Baddondy eu darganfod yn 1934, ac er nad ydynt yn fawr iawn maent wedi cadw’n dda a chredir eu bod yn rhan yn ‘orsaf filwrol fach’. Cafodd ei ddefnyddio gan yr 20fed lleng (XX VV) o filwyr a oedd wedi’u lleoli yn Deva, Caer tua 120AC. Credir bod cysylltiad rhwng eu presenoldeb yn yr ardal â’r gwaith mwyngloddio plwm ac arian yn Sir y Fflint.
Yn ystod y gwaith cloddio ym Maddondy Rhufeinig Prestatyn, daethpwyd o hyd i ardal ffwrnais, sawl ystafell nodweddiadol (Caldariwm, Tepidariwm a Frigidariwm) a phwll plymio. Os edrychwch yn ofalus gallwch weld y pibelli Rhufeinig a oedd yn cludo dŵr ffynnon i’r ystafelleodd. Y Baddondy Rhufeinig ym Mhrestatyn yw’r enghraifft gyntaf o sba yn y dref. Yn y Caldariwm, yr ystafell boethaf, byddai’r milwyr yn chwysu’n sylweddol, yn crafu eu cyrff ac yn rhoi olew ar eu croen. Yn y Tepidariwm, fel mewn sba modern heddiw, byddai’r Rhufeiniaid yn ymlacio yn yr aer cynnes, cyn symud ymlaen i’r ystafell oer i sgwrsio, codi pwysau neu chwarae gemau bwrdd.
Does dim arwyddion i’ch cyfeirio at y safle hanesyddol bach hwn ym Mhrestatyn yng Ngogledd Cymru, felly mae’n well defnyddio Google maps i ddod o hyd iddo. Mae bwrdd gwybodaeth dwyieithog ar gael ar y safle.
Gallwch gyrraedd safle Baddondy Rhufeinig Prestatyn mewn 38 munud ar droed o Westy’r Traethau neu 10 munud mewn car.
42 Melyd Avenue
Ar agor bob dydd | AM DDIM
Dim lle parcio penodol (Ardal breswyl)
Delwedd: Blue Bug Photography
**Hawlfraint y Goron. Lluniau dan drwydded gan https://assets.wales.com/**