Ardal chwarae i Blant
Ger Gwesty’r Traethau
5 munud i ffwrdd o Westy’r Traethau mae ardal chwarae wych y Nova ar Draeth Canolog Prestatyn.
Ewch allan o Westy’r Traethau drwy Far y Promenâd a throwch i’r chwith. Cerddwch i lawr y promenâd nes i chi gyrraedd y Traeth Canolog ac mae’r ardal chwarae y tu ôl i’r promenâd ar y chwith o flaen Canolfan y Nova, cyn i chi gyrraedd Cerflun Dechrau a Diwedd.
Nova Prestatyn
Beach Road West
Prestatyn
Sir Ddinbych
LL19 7EY
Llun: Blue Bug Photography
Dewch i aros gyda ni yng Ngwesty’r Traethau
Ar ôl ymweld â’r ardal chwarae, cewch ddychwelyd i Westy’r Traethau i fwynhau croeso cynnes, bwyd blasus ac ystafelloedd moethus, lle rydych yn siŵr o gael noson dda o gwsg. Os oes gennych amser, beth am fanteisio ar ein cyfleusterau hamdden ac ymlacio yn ein pwll nofio dan do.
**Hawlfraint y Goron. Lluniau dan drwydded gan https://assets.wales.com/**