Gwesty’r Traethau
Croeso i Brestatyn
Gostyngiad Archebu Uniongyrchol: Defnyddiwch y cod DIRECT10 i gael gostyngiad o 10%
Croeso i Westy 4 Seren Y Traethau yn nhref hardd Prestatyn. Dewch i aros yn ein gwesty moethus i fwynhau golygfeydd o Fôr Iwerddon a bryniau Prestatyn a mynediad uniongyrchol i Draeth Barkby. Mae ein tîm yng Ngwesty’r Traethau yn cynnig croeso cyfeillgar a chynnes iawn, felly dewch i ymlacio a chreu atgofion melys ar y traeth yng Ngogledd Cymru: o anturiaethau gyda’r teulu i deithiau cerdded rhamantus ar y traeth, mae’r dewis yn ddiddiwedd.
Dewch o hyd i’ch gwyliau perffaith yma yng Ngogledd Cymru gan aros yng Ngwesty’r Traethau, Prestatyn – gwesty cartrefol braf. Gallwch dreulio’r diwrnod yn casglu cregyn, adeiladu cestyll tywod a mwynhau picnic ar Draeth Barkby. Does dim rhaid i chi gerdded yn bell o Westy’r Traethau i ddod o hyd i gwrs golff gwirion a maes chwarae antur, sy’n berffaith ar gyfer ein gwesteion ifanc.
Mae croeso cynnes iawn yn aros amdanoch yn ein gwesty yn nhref Prestatyn. Gallwch archebu’n uniongyrchol gyda ni i gael y cynigion gorau yng Ngwesty 4 Seren Y Traethau, y lle perffaith i fwynhau gwyliau glan-môr tawel.
Gwyliau Moethus am Bris Llai
Gyda’n Cynigion Arbennig yng Ngwesty’r Traethau
Uchafbwyntiau’r Gwesty
Darganfod Arfordir Gogledd Cymru
Yma yng Ngwesty’r Traethau, mae pob un o’n hystafelloedd cyfforddus a chroesawgar yn wahanol. Dewiswch o swits crand, ystafelloedd sengl, ystafelloedd dwbl safonol, ystafelloedd gyda golygfa o’r môr ac ystafelloedd i’r teulu. Dewch i fwynhau gwyliau braf yn ein hystafelloedd modern, eang a chyfforddus – rydych yn siŵr o gael noson dda o gwsg.
Rydym yn cynnig profiad bwyta gwych yn Bistro Bar y Promenâd gyda golygfeydd gwych ar draws Traeth Barkby. Ni waeth a ydych chi’n chwilio am swper rhamantus i ddau, pryd gyda’r nos i’r teulu, cinio gyda ffrindiau, brecwast neu ginio busnes, neu brofiad arbennig ein Te Prynhawn, mae gennym rhywbeth at ddant pawb. Gallwch hefyd eistedd nôl, ymlacio a mwynhau dewis eang o goctêls, gwirodydd, gwinoedd a chwrw.
Ystafelloedd Moethus
DARLLEN MWYBwyta mewn Steil
DARLLEN MWYHamdden a Gweithgareddau
Ger Gwesty 4 Seren Y Traethau
Mwy o fanylion
Gwesty 4 Seren Y Traethau yw un o’r lleoliadau gorau i gynnal priodasau a digwyddiadau ar yr arfordir yn y DU. Gyda golygfeydd anhygoel o’r haul yn machlud ar draws Môr Iwerddon, dyma le hudolus i gynnal eich priodas . Gallwn ddarparu ar gyfer hyd at 200 o westeion ac mae Elizabeth, ein cydlynydd priodasau profiadol, a’r tîm wrth law i drefnu’r diwrnod perffaith ar eich cyfer chi a’ch gwesteion.
Priodasau
DARLLEN MWYOriel
DARLLEN MWYCynadleddau
DARLLEN MWYTeuluoedd
DARLLEN MWYHanes y Gwesty
DARLLEN MWYEin Lleoliad
Y Lleoliad Perffaith i Ddarganfod Arfordir Gogledd Cymru
Mae tref arfordirol a hanesyddol Prestatyn, rhwng Caergybi a Manceinion, yn nodi pen draw Llwybr Cerdded Cendlaethol Clawdd Offa ac mae’r ardal yn cynnig rhai o’r golygfeydd gorau yng Nghymru, Parc Cenedlaethol Eryri a chestyll hanesyddol Cymru. Dewch i ddarganfod y dewis o weithgareddau ac atyniadau lleol yn nhrefi Prestatyn a Llandudno. Gallwch fwynhau golygfeydd godidog o Fryniau Clwyd o’n gwesty a’r Twyni Tywod a Thraeth Barkby gerllaw.
Os ydych yn mwynhau chwarae golff, mae Gwesty’r Traethau o fewn cyrraedd hwylus iawn i Gwrs Golff Pencampwriaeth Prestatyn. Mae ardal Prestatyn yn baradwys i chwaraewyr golff, ni waeth a ydych yn chwaraewr profiadol neu’n chwaraewr achlysurol sydd awydd gêm er mwyn ymlacio yn ystod eich arhosiad. Mae dewis eang o gyrsiau golff yng Ngogledd Cymru ac mae pob un yn cynnig golygfeydd godidog, cyfleusterau gwych a chroeso cynnes iawn i ymwelwyr.