Siopa ym Mhrestatyn
Ger Gwesty’r Traethau
Profiad Siopa Pleserus ym Mhrestatyn.
Parc Prestatyn – Parc Siopa Prestatyn
Mae Parc Prestatyn – Parc Siopa Prestatyn yn gartref i siopau poblogaidd y stryd fawr fel Next, River Island, JD Sports, Sports Direct, Boots, Poundland a TK Maxx i enwi dim ond rhai, yn ogystal ag adwerthwyr adnabyddus fel M&S a Tesco. Mae Parc Prestatyn mewn lleoliad cyfleus ger gorsaf drenau Prestatyn ym mhen isaf y Stryd Fawr, a gallwch barcio yno am ddim am 2 awr. Rydych yn siŵr o ddod o hyd i bopeth sydd ei angen arnoch, gan gynnwys unrhyw eitemau y gwnaethoch anghofio eu pacio ar gyfer eich gwyliau ym Mhrestatyn.
Mae’n werth crwydro ymhellach ac ymweld â Stryd Fawr Fictorianaidd hardd Prestatyn. Yno gallwch ddod o hyd i ddewis o fwytai a chaffis, amrywiaeth o siopau annibynnol, boutiques dillad ffasiynol a bariau gin cyfoes. Mae Stryd Fawr Prestatyn wedi cael sgôr o 4.5 ar Trip Advisor a chynhelir digwyddiadau unigryw blynyddol yno – prawf nad yw dyddiau’r Stryd Fawr wedi dod i ben!