Llwybrau Cerdded ym Mhrestatyn
Ger Gwesty’r Traethau, Gogledd Cymru
Mae dionedd o lwybrau cerdded gwych yn ardal Prestatyn y gallwch eu mwynhau yn ystod eich arhosiad gyda ni yng Ngwesty’r Traethau. Gallwch fynd am dro bach hamddenol ar y traeth gyda’ch ci neu ddewis taith gerdded heriol sydd wedi’i chynllunio’n ofalus. Dewch i fwynhau golygfeydd godidog o arfordir Gogledd Cymru ac ymgolli yn harddwch byd natur ardal Prestatyn. Mae’r holl lwybrau o fewn cyrraedd hwylus ar droed neu mewn car i Westy’r Traethau.
Ymweld â Llwybrau Cerdded Lleol
Mae Gwesty’r Traethau ar garreg drws rhai o lwybrau cerdded harddaf Prestatyn. Mae Twyni Gronant ychydig funudau i ffwrdd o’r gwesty ac mae’r llwyfannau gwylio gwych yn ddelfrydol i wylio’r môr a’r traeth islaw. Gan fod Gronant yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SSSI) mae’r llwyfannau hyn yn berffaith i’r rheini sy’n hoffi gwylio byd natur a rhyfeddu at y bywyd gwyllt prin. Hefyd, mae croeso i gŵn ar Draeth Twyni Gronant, felly dewch â’r ci gyda chi i fwynhau antur ar unrhyw adeg o’r flwyddyn.
Ger moryd afon Clwyd, taith o tua 15 munud mewn car o Westy’r Traethau, mae llyn pwrpasol Marine Lake. Cafodd ei adeiladu yn 1895 a gallwch fynd am dro ar y llwybr cerdded hyfryd sy’n addas i bob oedran, yn ogystal â chŵn. Mae dau faes chwarae awyr agored i’r plant ac i’r rheini sy’n hoffi antur mae cyfleoedd sgïo-dŵr a thonfyrddio yn yr Ocean Beach Water Ski Club. Os ydych yn mwynhau mynd ar deithiau cerdded heriol, beth am roi cynnig ar Lwybr Clawdd Offa. Mae’r llwybr cyfan yn 177 milltir (285km) o hyd ac mae’n cymryd 14 diwrnod i’w gwblhau. Er bod y llwybr hwn yn boblogaidd ymhlith cerddwyr profiadol, gall pawb fwynhau cerdded rhan o Lwybr Clawdd Offa. Mae’r darn rhwng Bodfari a Phrestatyn yn cynnig golygfeydd gwych o arfordir Gogledd Cymru ac mae’n bosibl ei gwblhau mewn diwrnod. Os ydych yn gerddwr profiadol neu achlysurol, rydym yn argymell eich bod yn mynd â llyfr tywys gyda chi, gwisgwch ddillad addas a chofiwch ddweud wrth rywun eich bod yn mynd am dro.
Mae Traeth Talacre yn lle bendigedig gyda milltiroedd o dywod euraid, a hynny 10 munud i ffwrdd o Westy’r Traethau mewn car. Dyma’r lle perffaith i dreulio’r diwrnod gyda’r teulu, naill ai yn mwynhau picnic neu physgod a sglodion o siop gyfagos. Bydd cŵn wrth eu bodd yn crwydro o amgylch Traeth Talacre lle mae digonedd o le iddynt fwynhau. Cymerwch olwg ar ein rhestr o’r pum taith gerdded orau i gŵn yn ardal Prestatyn, byddwch chi a’ch cyfaill blewog yn siŵr o gael amser cofiadwy yng Ngogledd Cymru.
Pam aros gyda ni ym Mhrestatyn
Ymunwch â ni yng Ngwesty’r Traethau lle mae digonedd o lwybrau cerdded lleol i’w mwynhau. Ar ôl diwrnod prysur yn crwydro ardal Prestatyn, arhoswch gyda ni yng Ngwesty’r Traethau lle gallwch fwynhau bwyd o’r safon uchaf, gwasanaeth penigamp ac ystafelloedd moethus ger y môr. Byddwch yn siŵr o gael noson dda iawn o gwsg.
Rydym wedi llunio rhestr isod o lwybrau cerdded i chi roi cynnig arnynt yn ystod eich arhosiad yn ardal Prestatyn a Gogledd Cymru.