Dewiswch ein Pecyn Machlud Haul neu porwch drwy ein Llawlyfr Priodasau lle gallwch greu priodas sy’n addas i’ch cyllideb a’ch gofynion personol yma yng Ngwesty’r Traethau. Beth am gymryd golwg ar y llawlyfr isod ac os oes gennych unrhyw gwestiynau, mae croeso i chi gysylltu â ni. Yma yng Ngwesty’r Traethau rydym yn hyderus y byddwch yn dod o hyd i’r hyn rydych chi’n chwilio amdano ar gyfer eich diwrnod arbennig.
Ein Pecyn Priodasau ym Mhrestatyn
Pecyn Machlud Haul
Mae ein Pecyn Machlud Haul ar gael bob dydd o’r flwyddyn ac mae’n darparu ar gyfer hyd at 100 o westeion gyda’r nos.
Llawlyfr Priodasau
Gallwch drefnu Priodas sy’n addas i’ch cyllideb a’ch gofynion drwy ddewis a dethol o’r dewisiadau yn ein Llawlyfr Priodasau.
Dewiswch eich canapes, bwydlen y wledd briodas, pecynnau diodydd a dewisiadau’r bwffe gyda’r nos.
I drefnu apwyntiad â’n cydlynydd priodasau, ffoniwch aelod o dîm y dderbynfa ar 01745 853 072 neu anfonwch e-bost at elizabeth@thebeacheshotel.com
Byddwn yn hapus iawn i’ch cyfarfod ar amser cyfleus i drafod pecyn wedi’i deilwra’n arbennig ar gyfer eich gofynion, yn ogystal â’ch tywys o amgylch y gwesty.
Ein Lleoliad ar Arfordir Gogledd Cymru
Rydym yn cynnig lleoliad gwych ar gyfer Priodas ar yr Arfordir, yn nhref hardd Prestatyn, sydd 30 munud i ffwrdd o Gaer, 1 awr o Lerpwl, 1.5 awr o Fanceinion a 2.5 awr o Lundain.
Pecyn Machlud Haul
Pecyn priodas rhamantus gyda’r nos. Ar gael rhwng dydd Llun a dydd Sul drwy’r flwyddyn ar gyfer 100 o westeion.
LAWRLWYTHWCH Y PECYN MACHLUD HAULEin Llawlyfr Priodasau
Edrychwch ar ein pecyn priodasau yn ein lleoliad arbennig ar yr arfordir, gan ddethol a dewis.
LAWRLWYTHWCH Y PECYNPriodasau
Yng Ngwesty’r Traethau
Ymholiadau Priodasau
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â ni drwy lenwi ein ffurflen ymholiadau neu ffoniwch 01745853072.
YMHOLWCH NAWRSwît Mis Mêl
Beth am ddeffro i fwynhau golygfeydd gwych o’r môr a gwylio’r haul yn codi gyda’ch gilydd ar fore cyntaf eich bywyd priodasol.
DARLLEN MWYSwît Priodasol
Yn cynnwys digon o le i eistedd, hongian dillad, a bwrdd gwisgo â drych i baratoi ar gyfer y diwrnod mawr.
DARLLEN MWY