Dewch i fwynhau’r gorau o arfordir Gogledd Cymru yr haf hwn gyda Gwyliau yn yr Haf yng Ngwesty’r Traethau, Prestatyn.
Gwyliau haf
Ni waeth a ydych yn teithio ar eich pen eich hun, gyda ffrindiau, neu’n mwynhau Gwyliau gyda’r Teulu, mae rhywbeth at ddant pawb yr haf hwn ym Mhrestatyn a thu hwnt. Gyda Thraeth Barkby ar garreg ein drws, rydym mewn lleoliad delfrydol i ymlacio ar y traeth a mwynhau’r haul, cerdded ar hyd y Prom, blasu hufen iâ, adeiladu cestyll tywod, neu edmygu’r golygfeydd godidog o’r arfordir. Mae tref Prestatyn yng Ngogledd Cymru yn cynnig Gwyliau haf sy’n addas i bawb.
Llety glan-môr ar gyfer eich Gwyliau Haf
Mae gan Westy’r Traethau ddewis eang o ystafelloedd moethus. Gallwch ddewis ystafell foethus gyda golygfa o’r môr neu’r mynydd, ystafelloedd arbennig sy’n cynnig ychydig mwy o le, neu ystafelloedd teulu eang. Mae pob ystafell yn cynnwys teledu LCD, Wi-Fi am ddim, nwyddau ymolchi am ddim a chyfleusterau ar gyfer gwneud paned o de/coffi, ynghyd â dillad gwely o safon a matresi cyfforddus a fydd yn sicrhau eich bod yn cael noson dda o gwsg yn ystod eich Gwyliau Haf.
Bwyta yn ystod eich Gwyliau Haf
Ar ôl treulio diwrnod yn crwydro’r ardal yn heulwen braf Gogledd Cymru, gallwch ddychwelyd i Westy’r Traethau i fwynhau pryd blasus ym Mar a Bistro’r Promenâd.
Mae ein holl fwydlenni wedi cael eu hysbrydoli gan gynhwysion lleol ac maent yn cael eu paratoi’n ffres gan ein cogyddion arbenigol.
Ymlaciwch gyda’n Cyfleusterau Hamdden
Yng Ngwesty’r Traethau, gall ein gwesteion ddefnyddio ein cyfleusterau hamdden yn ystod eu Gwyliau Haf. Gallwch fwynhau nofio yn ein pwll nofio mawr, modern dan do, ymlacio yn y sawna neu’r ystafell stêm neu gadw’n heini yn y gampfa.
Hwyl yr Haf
Yr haf yw’r amser perffaith i ddarganfod tlysau cudd Prestatyn ac arfordir Gogledd Cymru. Ewch am dro ar hyd llwybrau’r arfordir, dysgwch am hanes yng nghestyll Caernarfon, Conwy neu Gricieth, neu beth am ddiwrnod o hwyl yn Sw Caer. Gallwch ymlacio ar un o’r traethau gwych niferus yng Ngogledd Cymru, gyda’u promenadau llydan, twyni tywod ac ardaloedd picnic – mae digonedd o bethau i gadw pawb yn hapus. Os ydych am drefnu diwrnod allan yn ystod yr haf, bydd ein tîm cyfeillgar yn y dderbynfa yn hapus iawn i gynnig awgrymiadau a chyngor ar atyniadau a gweithgareddau lleol, a sut i gynllunio eich diwrnod.
Gwyliau Haf
Dianc i Brestatyn a mwynhau gwyliau haf ar y traeth gyda'ch anwyliaid. Archebwch ein bargeinion gwestai haf gwerthfawr heddiw!
Archebwch nawr