Cwestiynau Cyffredin
Gwesty’r Traethau
A oes gennych gysylltiad â’r Rhyngrwyd?
Oes, mae mynediad Wi-Fi am ddim yn ein holl ystafelloedd gwely ac ardaloedd cyhoeddus.
A oes cyfleusterau parcio ar gael?
Oes, mae maes parcio mawr ar gael gyferbyn â’r gwesty.
A oes cyfyngiad uchder yn y maes parcio?
Mae cyfyngiad uchder yn ein maes parcio, mae’n 2.1 metr o uchder a 3 metr o led.
Faint o’r gloch mae angen i mi gyrraedd?
Rydym yn croesawu gwesteion yng Ngwesty’r Traethau, Prestatyn, ar ôl 3pm.
Faint o’r gloch mae’n rhaid i mi adael?
Mae’n rhaid i westeion adael Gwesty’r Traethau, Prestatyn, erbyn 11am.
Pryd mae’r dderbynfa yn cau?
Mae’r dderbynfa ar agor ar gyfer archebion rhwng 8am a 10pm. Mae porthor ar gael drwy’r nos i gynorthwyo os byddwch yn cyrraedd yn hwyr neu’n gadael yn gynnar.
A oes lifft yn y Gwesty?
Oes, mae lifft yn y Gwesty. Mae 3 llawr yn y gwesty, ac mae’r lifft yn mynd i bob llawr ac nid oes grisiau ychwanegol ar unrhyw un o’r lloriau.
A yw’r gwesty yn addas i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn?
Ydy, mae’r prif fynedfa yn hygyrch ac mae lifft yn mynd i bob llawr.
A oes modd i ni storio ein bagiau os byddwn yn cyrraedd yn gynnar?
Oes, rydym yn cynnig cyfleusterau storio bagiau am ddim i’n gwesteion.
A ydych chi’n cynnig Brecwast?
Rydym yn gweini Brecwast rhwng 7.30 am a 10.00am, o ddydd Llun i ddydd Gwener, a rhwng 7.30am 10.30am, ddydd Sadwrn a dydd Sul.
Pa mor hwyr mae’r gwesty ar agor?
Mae Gwesty’r Traethau, Prestatyn ar agor i westeion 24 awr.
A yw Gwesty’r Traethau yn addas i deuluoedd?
Ydy, mae Gwesty’r Traethau yn croesawu teuluoedd ac os bydd angen unrhyw gymorth arnoch ar gyfer eich plant neu fabanod yn ystod eich arhosiad mae croeso i chi gysylltu â’r tîm yn y brif dderbynfa. Gallwn drefnu cot ar gyfer eich arhosiad. Rydym hefyd yn cynnig bwydlen i blant.
A ydych chi’n gweini bwyd yn y Bar yn y gwesty?
Enw bar ein gwesty yw Bar a Bistro’r Promenâd ac rydym yn gweini bwyd bob dydd rhwng 12pm a 9pm.
Mae ein bwydlen Cinio ar gael rhwng 12pm a 5pm a’r Fwydlen Swper rhwng 5pm a 9pm.
A oes pwll nofio, sba neu gampfa yn y gwesty?
Oes, mae gennym bwll hamdden a phwll sba cysylltiedig, ystafell stêm, sawna a champfa fach ar gyfer ein gwesteion. Mae pwll nofio Gwesty’r Traethau Prestatyn ar agor rhwng 8am ac 8pm bob dydd.
A yw’r traeth yn ddiogel ac yn lân?
Mae Traeth Barkby yn Draeth Baner Las, arwydd o draeth glân a diogel sy’n cael ei gydnabod yn rhyngwladol. Er eich diogelwch, rydym yn argymell eich bod yn nofio yn yr ardal sy’n cael ei goruchwylio gan achubwyr bywyd rhwng y baneri ychydig yn is i lawr ar Draeth Canolog Prestatyn. Gall ein tîm roi cyfarwyddiadau pellach i chi.
A yw’r gwesty yng nghanol Prestatyn?
Nac ydy, mae Gwesty’r Traethau ger Traeth Barkby, sydd tua 25 munud i ffwrdd ar droed o ganol tref Prestatyn neu daith 4 munud mewn car.
A oes eglwys gerllaw?
Oes, mae sawl eglwys yn agos at Westy’r Traethau, Prestatyn – Eglwys Crist, Eglwys Fethodistaidd y Drindod ac Eglwys Gatholig St Peter & St Frances.
A allwch chi drefnu tacsi i’m codi ym maes awyr Lerpwl?
Yn anffodus, oherwydd y pellter bydd yn rhaid i chi wneud y trefniadau hyn eich hun. Fodd bynnag, gallwn archebu tacsis i westeion yn yr ardal leol ar ôl iddynt gyrraedd y gwesty.
A yw’r gwesty yn croesawu cŵn?
Cŵn tywys yn unig all ddod i mewn i’r gwesty. Rydym yn caniatáu cŵn yn ein llety arall, Chalets y Traethau / Beaches Chalets – cysylltwch â’r gwesty yn uniongyrchol i archebu lle yn y Chalets. Mae croeso i gŵn ar y teras y tu allan i Far a Bistro’r Promenâd, pan fyddwch yn bwyta, ac rydym yn darparu powlen ddŵr ar eu cyfer.
A yw’n bosibl i chi drefnu rownd o golff ym Mhrestatyn?
Gallwn drefnu rownd o golff yn ein cyrsiau golff lleol ym Mhrestatyn cyn i chi ddod i aros gyda ni yng Ngwesty’r Traethau. Cysylltwch â Joanne neu aelod o’r tîm pan fyddwch yn archebu’n uniongyrchol gyda ni ac mae’n bosibl y bydd modd trefnu gostyngiad os ydych yn aros am fwy nag un noson.