Ystafelloedd Dau Wely
Yng Ngwesty’r Traethau ar arfordir Gogledd Cymru
Mae ein Hystafelloedd Dau Wely yng Ngwesty’r Traethau yn cynnwys dau wely sengl a phopeth mae ei angen arnoch yn ystod eich arhosiad, ni waeth beth yw eich gofynion. Mae’r ystafelloedd yn ddelfrydol ar gyfer noson i ffwrdd gyda’r genod neu’r hogiau, taith fusnes gyda’ch cydweithwyr neu wyliau golff gyda’ch cyfeillion.
Archebwch ein Hystafelleodd Dau Wely
Mae pob un o’n Hystafelloedd Dau Wely yn cynnig croeso cysurus a chartrefol. Mae’r gwelyau braf yn cynnwys dillad gwely gwyn, matresi moethus, dwfes meddal a chlustogau cyfforddus, felly rydych yn siŵr o gael noson dda o gwsg. Yn ogystal â hyn, mae ein Hystafelloedd Dau Wely gyda Golygfeydd o’r Mynyddoedd yn cynnwys ystafell ymolchi ensuite gyda nwyddau ymolchi am ddim, teledu clyfar, Wi-Fi am ddim a chyfarpar te/coffi.
Yn ystod eich arhosiad, ymunwch â ni i fwynhau’r gorau o fwyd Cymru ac Ewrop ym Mar a Bistro’r Promenâd. Gyda golygfeydd godidog o’r môr, dyma’r lle delfrydol i fwynhau pryd rhamantus i ddau. Mae’r holl seigiau yn cael eu paratoi yn ein cegin, felly siaradwch gyda’ch gweinydd os oes gennych anghenion deietegol arbennig neu os hoffech gael rhagor o wybodaeth am unrhyw un o’n seigiau.
Mae dyluniad a maint pob ystafell yn wahanol, mae’r lluniau yn enghreifftiol yn unig
Mathau eraill o Lety
Yng Ngwesty’r Traethau
Ystafelloedd Dwbl gyda Golygfa o’r Môr
Mae ein Hystafelloedd Dwbl gyda Golygfa o’r Môr yn cynnig golygfeydd rhannol gwych o Fôr Iwerddon.
DARLLEN MWYYstafelloedd i Dri
Mae ein hystafelloedd i dri yng Ngwesty’r Traethau yn ddelfrydol ar gyfer noson i ffwrdd gyda’ch ffrindiau ger y môr.
DARLLEN MWYArchebwch Wyliau Byr gyda’ch Ffrindiau
Arhoswch yng Ngwesty’r Traethau
Siopa ym Mhrestatyn
Gallwch siopa drwy’r dydd gyda’ch ffrindiau ym Mharc Prestatyn, parc siopa poblogaidd Prestatyn.
DARLLEN MWY